The Welsh Language Charter
Beth ydy’r Siarter Iaith?
Fframwaith Cenedlaethol yw’r siarter iaith ar gyfer pob lleoliad ac ysgol er mwyn darparu sylfaen gyfannol ar gyfer cynllunio profiadau ar draws y cwricwlwm er mwyn cynyddu defnydd dysgwyr o’r Gymraeg a meithrin eu hyder yn yr iaith. Mae’n cefnogi cynyddu’r cyfleoedd i ddysgwyr siarad Cymraeg mewn amrywiaeth o gyd-destunau a gwreiddio eu defnydd o batrymau iaith Gymraeg o oedran cynnar. Mae’r egwyddorion a amlinellir yn y siarter iaith yn unol â chanllawiau cwricwlwm i Gymru 2022.
Rydyn ni am ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Mae’r Siarter Iaith i bawb a gall pob aelod o gymuned yr ysgol gymryd rhan, cyngor yr ysgol, dysgwyr, y gweithlu, rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach. Mae hyn yn sicrhau bod gan bob ysgol berchnogaeth lawn ar eu Siarter Iaith. Gyda’n gilydd fe wnawn ni gynyddu defnydd cymdeithasol plant a phobl ifanc o’r Gymraeg.
Mae’r Siarter Iaith ar waith mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ledled Cymru. Yn ogystal mae rhaglenni eraill ar gyfer dysgwyr:
- oedran uwchradd ysgolion cyfrwng Cymraeg
- sydd yn dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg (Cymraeg Campus),
- oedran uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg (Cymraeg bob dydd).
Cymraeg Campus
Nod Cymraeg Campus yw darparu fframwaith clir y gellir ei ddefnyddio i hybu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg gan blant mewn cyd-destun ysgol gyfan. Prif nod y Siarter Iaith Cymraeg Campus yw hybu naws Gymreig gref mewn ysgolion a darparu ystod o weithgareddau sy’n ysgogi’r plant i fwynhau dysgu Cymraeg.
Mae Cymraeg Campus i bawb: mae gan bob aelod o gymuned yr ysgol ran i’w chwarae, y cyngor ysgol, dysgwyr, y gweithlu, rheini, gofalwyr, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach. Bydd hyn yn sicrhau bod gan bob ysgol berchnogaeth lawn o’r Siarter Iaith Cymraeg Campus. Mae gan Criw Cymraeg yr ysgol ran allweddol i’w chwarae wrth arwain a hyrwyddo’r Siarter Iaith Cymraeg Campus.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd rhaglen y Siarter Iaith fel adnodd allweddol ar gyfer cynyddu defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg.
Mae 100% o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg Wrecsam wedi ymrwymo i’r Siarter Iaith Cymraeg Campus ac maent oll ar eu taith i gwblhau’r Wobr Efydd, Arian neu Aur.