Croeso i wefan Addysg Gymraeg Wrecsam
Gweithredir y wefan hon fel hwb canolog i rannu gwybodaeth ac adnoddau ac er mwyn hyrwyddo a chefnogi taith iaith myfyrwyr a’u teuluoedd. Nôd y wefan ydi codi ymwybyddiaeth am yr ystod eang o gyfleoedd a chefnogaeth sydd ar gael ar gyfer plant a theuluoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg Wrecsam gan hefyd grybwyll y cyfleodd ac opsiynnau ol-addysg i siaradwyr Cymraeg.
Y Gymraeg
- Mae oddeutu hanner miliwn o bobl yn gallu siarad Cymraeg yng Nghymru
- Nôd Llywodraeth Cymru ydi cynyddu y nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru i un miliwn erbyn 2050
- Cymraeg yw un o’r ieithoedd hynaf yn Ewrop, ac un o’r ieithoedd lleiafrifol cryfaf yn Ewrop
- Amddiffynir yr Iaith Gymraeg gan Gomisiynydd Iaith
- Mae’r nifer o weithleoedd sydd yn hysbysebu swyddi ble mae sgiliau yn y Gymraeg yn unai hanfodol neu’n ddymunol yn cynyddu
- Mae’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu, gyda mwy a mwy o rieni yn cydnabod pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg
Hyrwyddo darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg Wrecsam
Di-sodli'r myth
Cymraeg: o’r crud at yrfa
Newyddion diweddaraf
Dysgu o Ganada i gryfhau addysg cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam. (Prosiect a ariennir gan Taith)
Dysgu o Ganada i gryfhau addysg cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam. (Prosiect a ariennir gan Taith)Dysgu o Ganada i Gryfhau Addysg Cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam. (Prosiect a Ariennir gan Taith)Roedd prosiect Llwybr Taith 2 Wrecsam, “Dysgu o Brunswick Newydd a Québec, Canada, i Gryfhau Addysg Cyfrwng... Darllen mwy










