Polisi Preifatrwydd
1. Rhagarweiniad
a. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd defnyddwyr gwasanaeth ac ymwelwyr â’n gwefan.
b. Mae’r polisi yn berthnasol pan fyddwn yn gweithredu fel rheolyddion data gyda pharch at ddata personol defnyddwyr gwasanaeth ac ymwelwyr â’n gwefan; mewn geiriau eraill rydym yn pennu’r dibenion a’r dull o brosesu’r data personol hynny.
c. Mae ein gwefan yn ymgorffori rheolyddion preifatrwydd sy’n effeithio sut y byddwn yn prosesu eich data personol.
d. Yn y polisi hwn, mae “byddwn”, “rydym” ac “ein” yn cyfeirio at ein henw fforwm uchod yn unig.
2. Credyd
a. Crëwyd y ddogfen hon drwy ddefnyddio templed gan SEQ Legal (https://seqlegal.com).
3. Sut rydym ni’n defnyddio eich data
a. Yn yr adran hon rydym wedi nodi
i. y categorïau cyffredinol o ddata personol y byddwn o bosib yn ei brosesu;
ii. y dibenion lle byddwn o bosib yn prosesu data personol; a’r
iii. seiliau cyfreithiol o brosesu.
b. Efallai y byddwn yn prosesu data am eich defnydd o’n gwefan. Bydd y data defnyddio o bosib yn cynnwys eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, math a fersiwn o borwr, system gweithredu, ffynhonnell cyfeirio, hyd yr ymweliad, nifer yr ymwelwyr â’r safle a llwybrau gwe-lywio gwefan, yn ogystal â gwybodaeth am amseriad, amlder a phatrwm eich defnydd o’r gwasanaeth. Efallai bydd y data defnyddio yn cael ei brosesu ar gyfer dibenion dadansoddi’r defnydd o’r wefan. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu ein buddiant dilys, yn bennaf monitro a gwella ein gwefan.
c. Efallai y byddwn yn prosesu’r wybodaeth y byddwch yn ei ddarparu i ni ar gyfer dibenion tanysgrifio i’n hysbysiadau e-bost ac/neu newyddlenni. Mae'n bosibl y caiff y data hysbysiad ei brosesu at ddibenion anfon yr hysbysiadau a'r/neu’r newyddlenni perthnasol atoch. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw ein buddiant dilys, yn bennaf gweinyddu priodol o ran ein cyfathrebu gyda defnyddwyr.
d. Efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth wedi’i gynnwys neu sy’n berthnasol i unrhyw gyfathrebu yr ydych yn ei anfon atom. Gall y data gohebiaeth gynnwys y wybodaeth yn y cynnwys. Efallai bydd y data gohebiaeth yn cael ei brosesu ar gyfer dibenion cyfathrebu gyda chi ac ar gyfer cadw cofnodion. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw ein buddiant dilys, yn bennaf gweinyddu priodol o ran ein cyfathrebu gyda defnyddwyr.
e. Efallai y byddwn yn prosesu unrhyw ran o’ch data personol wedi’i adnabod yn y polisi hwn pan fo’i angen ar gyfer y sefydliad, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol, un ai mewn achos llys neu gyda gweithdrefn gweinyddu neu weithdrefn allan o’r llys. Mae’r sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yn hanfodol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’r rheolydd yn destun iddo.
f. Efallai y byddem yn prosesu unrhyw ddata personol gennych wedi’i gynnwys yn y polisi hwn pan fo’i angen ar gyfer dibenion cael neu gynnal yswiriant, rheoli risgiau, neu gael cyngor proffesiynol. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hyn yw ein rhwymedigaeth gyfreithiol i amddiffyn ein fforwm rhag risgiau.
g. Yn ogystal â’r dibenion penodol y byddwn yn eu defnyddio’n sail i brosesu eich data personol fel y nodir yn Adran 3, gallwn hefyd brosesu unrhyw ddata personol gennych pan fydd prosesu o’r fath yn angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn destun iddo, neu er mwyn amddiffyn eich buddiannau allweddol neu fuddiannau allweddol rhywun arall.
h. Peidiwch â rhoi data personol rhywun arall i ni oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny.
4. Cadw a dileu data personol
a. Mae’r Adran hon yn nodi ein polisïau a’n gweithdrefnau cadw data, a gynlluniwyd i helpu i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol o ran cadw a dileu data personol.
b. Ni fydd data personol yr ydym yn ei brosesu ar gyfer unrhyw ddiben neu ddibenion yn cael ei gadw am fwy o amser nac sydd ei angen at y diben hwnnw neu'r dibenion hynny.
c. Yn ogystal â’r darpariaethau eraill yn Adran 4, mae’n bosib y byddwn yn cadw eich data personol pan fydd gweithred o’r fath yn angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn destun iddo, neu er mwyn amddiffyn eich buddiannau allweddol neu fuddiannau allweddol rhywun arall.
5. Eich hawliau
a. Yn yr Adran hon rydym wedi crynhoi’r hawliau sydd gennych o dan y gyfraith diogelu data. Mae rhai o’r hawliau’n gymhleth, ac nid yw’r holl fanylion wedi eu cynnwys yn ein crynodeb. Yn unol â hynny, dylech ddarllen y cyfreithiau a’r canllawiau perthnasol gan yr awdurdodau rheoleiddio am eglurhad llawn o’r hawliau yma.
b. Eich prif hawliau o dan y gyfraith diogelu data yw:
i. yr hawl i gael mynediad;
ii. yr hawl i gywiro;
iii. yr hawl i ddileu;
iv. yr hawl i gyfyngu ar brosesu;
v. yr hawl i wrthwynebu prosesu;
vi. yr hawl i gludadwyedd data;
vii. yr hawl i gwyno i awdurdod oruchwylio; a’r
viii. hawl i dynnu caniatâd yn ei ôl.
c. Mae gennych yr hawl i gadarnhau os gallwn brosesu eich data personol neu beidio, a phan fyddwn ni’n gwneud hynny, bod mynediad i ddata personol, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol benodol. Bod gwybodaeth ychwanegol yn cynnwys manylion ynglŷn â phwrpas prosesu, categorïau o ran y data personol o dan sylw a’r rheiny fydd yn derbyn y data personol. Ar yr amod fod hawliau a rhyddid eraill ddim yn cael eu heffeithio, byddwn yn eich cyflenwi â chopi o’ch data personol.
d. Mae gennych yr hawl i ofyn am ddata personol amdanoch sy’n anghywir i gael ei gywiro, a gan gymryd i ystyriaeth ddibenion y prosesu, i gael unrhyw ddata personol amdanoch sy’n anghyflawn i gael ei gwblhau.
e. Mewn rhai amgylchiadau mae gennych yr hawl i ddileu eich data personol heb oedi gormodol. Mae’r amgylchiadau hynny’n cynnwys: data personol sydd ddim yn angenrheidiol rhagor mewn perthynas â’r dibenion lle'r oedd wedi cael ei gasglu neu fel arall ei brosesu; rydych yn gwrthwynebu i’r prosesu o dan reoliadau penodol o gyfraith diogelu data perthnasol. Fodd bynnag, mae eithriadau i’r hawl i ddileu. Mae’r eithriadau cyffredinol yn cynnwys pan fydd prosesu yn ofynnol: ar gyfer ymarfer yr hawl i ryddid mynegiant a gwybodaeth; i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol; neu ar gyfer y sefydliad, arfer neu amddiffyn hawliau cyfreithiol.
f. Mewn rhai amgylchiadau mae gennych hawl i gyfyngu ar faint o’ch data personol sy’n cael ei brosesu. Yr amgylchiadau hynny yw: rydych yn dadlau cywirdeb data personol; prosesu yn anghyfreithlon ond rydych yn erbyn dileu; nid oes angen y data personol arnom ragor ar gyfer ein dibenion prosesu, ond rydych angen data personol ar gyfer y sefydliad, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; ac rydych wedi gwrthwynebu i’r prosesu, hyd nes bydd y gwrthwynebiad hynny yn cael ei ddilysu. Pan mae prosesu yn cael ei gyfyngu ar y sail hon, efallai y byddwn yn parhau i storio eich data personol. Fodd bynnag, fel arall byddwn ond yn ei brosesu; gyda’ch caniatâd; i’r sefydliad, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; ar gyfer diogelu hawliau bodau dynol eraill neu gyfreithiol; neu ar gyfer rhesymau o ddiddordeb pwysig i’r cyhoedd.
g. Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i ni brosesu eich data personol ar seiliau yn berthnasol i sefyllfa benodol, dim ond i’r fath raddau bod y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu yn angenrheidiol ar gyfer: perfformio tasg a gyflawnwyd yn niddordeb y cyhoedd neu gydag ymarferiad o unrhyw awdurdod swyddogol wedi ei freinio ynom; neu ar gyfer dibenion buddiant dilys wedi ei ddilyn gennym ni neu drydydd parti. Os byddwch yn gwneud gwrthwynebiad o’r fath, byddwn yn terfynu i brosesu gwybodaeth bersonol oni bai y gallwn arddangos sail gyfreithlon cymhellol ar gyfer y prosesu sy’n diystyru eich diddordeb, hawliau a rhyddid, neu fod y prosesu ar gyfer y sefydliad, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
h. Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i ni brosesu eich data personol ar gyfer dibenion ymchwil gwyddonol a hanesyddol neu ar gyfer dibenion ystadegol ar sail sy’n berthnasol i’ch sefyllfa benodol, oni bai fod y prosesu yn angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg yn cael ei gyflawni ar gyfer rhesymau o fudd y cyhoedd.
i. Os ydych yn ystyried fod ein prosesu o wybodaeth bersonol yn torri cyfreithiau diogelu data, mae gennych hawl gyfreithiol i gyflwyno cwyn gyda’r awdurdod oruchwylio sy’n gyfrifol am ddiogelu data. Efallai y gwnewch hynny fel aelod-wladwriaeth UE o’ch preswylfan, eich lleoliad gwaith neu’r lleoliad y digwyddodd y dor cyfraith honedig.
j. I’r graddau mai cydsynio yw’r sail gyfreithiol i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol, mae gennych hawl i dynnu’r cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg. Ni fydd tynnu nôl yn effeithio ar gyfreithlondeb y prosesu cyn y tynnu nôl.
k. Gallwch ymarfer unrhyw un o’ch hawliau mewn perthynas â’ch data personol drwy gysylltu â ni.