Addysg Gynnar wedi’i Hariannu, Wrecsam
Mae Addysg Gynnar wedi’i Hariannu yn ddarpariaeth addysg statudol ar gyfer plant 3 oed yn y Sector Nas Cynhelir, fel arfer mewn Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Chwarae a Meithrinfeydd Dydd Preifat. Arolygir pob lleoliad Addysg Gynnar wedi’i Hariannu gan Estyn ac AGC. Mae plant yn gymwys y tymor ar ôl eu 3ydd pen-blwydd. Mae gan bob plentyn yn Wrecsam hawl i 10 awr o Addysg Gynnar wedi'i Hariannu bob wythnos. Mae hyn yn ystod y tymor yn unig. Bydd lle wedi'i ariannu yn cael ei ddarparu ar gyfer y Gwanwyn a'r Haf ar gyfer plant sy'n cael eu geni yn nhymor yr Hydref. Bydd gan blant sydd â phenblwyddi yn ystod tymor y Gwanwyn hawl i le wedi’i hariannu ar gyfer tymor yr Haf.
Mae’r tîm Addysg Gynnar wedi’i Hariannu yn athrawon Blynyddoedd Cynnar cymwys a phrofiadol sy’n darparu ymweliadau rheolaidd â lleoliadau i fonitro a chefnogi’r ddarpariaeth Addysg Gynnar wedi’i Hariannu. Rydym yn darparu hyfforddiant a chymorth pwrpasol i sicrhau bod holl ymarferwyr lleoliadau Addysg Gynnar wedi’i Hariannu yn gallu cael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf a bod ganddynt yr holl sgiliau sydd eu hangen i ddarparu addysg o ansawdd da yn y ffordd briodol.
Mae amgylchedd dysgu galluogol ac ysgogol o ansawdd da - dan do ac yn yr awyr agored ac ymarferwyr gofalgar, sensitif a galluogol sy’n hwyluso dysgu a datblygiad plant trwy chwarae a phrofiadau dysgu cyfannol yn hanfodol.
O fis Medi 2022 ymlaen, rhaid i bob lleoliad sy’n darparu Addysg Gynnar wedi’i Hariannu ddilyn y Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin a Ariennir nas cynhelir. Mae'r Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin nas Cynhelir a Ariennir yn canolbwyntio ar y plentyn. Mae’n cydnabod bod pob plentyn yn unigryw, yn seiliedig ar egwyddorion datblygiad plentyn ac yn cefnogi datblygiad cyfannol a dysgu trwy chwarae a phrofiadau chwareus. Mae'n rhoi amser i blant archwilio, arbrofi, ailymweld, mireinio a myfyrio. Ein nod yw i bob plentyn 3 oed a ariennir fod yn hapus a chael hwyl wrth ddatblygu'r holl sgiliau y bydd eu hangen arnynt i ddatblygu cariad gydol oes at ddysgu.