Eisteddofd Genedlaethol yn dod i Wrecsam yn 2025!!
22/07/22
I gyd-fynd a chais newydd ar gyfer statws Dinas Diwylliant 2029 mae Wrecsam wedi derbyn caniatad i fod yn gartref ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2025. Cynhelir yr Eisteddfod yn ystod wythnos gyntaf mis Awst yn flynyddol. Mae'r Eisteddfod yn teithio o amgylch y wlad gan symud bob yn ail rhwng y Gogledd a'r De. Mae'n ddigwyddiad cyffrous sydd yn denu dros 150,000 o ymwelwyr a dros 250 o stondinau yn flynyddol. Bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn yr ardal yn ystod y blynyddoedd nesaf fel rhan o'r ymgyrch i hel arian tuag at y digwyddiad.