Dathlu ein partneriaeth rhwng Cymru a Chanada, a ariennir gan Taith

23/11/26
Rydym yn falch iawn o rannu ein fideo i ddathlu'r hyn a ddysgwyd o'n prosiect – a ariannwyd gan raglen Taith Llywodraeth Cymru – i archwilio trochi yn yr iaith a dulliau addysgu mewn rhanbarthau o Ganada lle siaredir Ffrangeg. Gallwch wylio ein fideo yma >>https://youtu.be/Mlo56H_gyBY




