Addysgwyr Wrecsam wedi ennill grant i ymchwilio addysg dwyieithog yng Nghanada.
28/09/24
Bydd grwp o addysgwyr o Wrecsam yn teithio i Ganada ar Ddydd Mercher yn dilyn eu cais llwyddiannus ar gyfer grant Llwybr 2 Taith, Llywodraeth Cymru.
Mae Taith yn rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol a sefydlwyd i greu cyfleoedd sy’n newid bywydau i bobl yng Nghymru ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd.
Maent yn frwd dros ymgorffori ymagwedd ryngwladol ym mhob lefel o’n system addysg.
Mae'r grwp o Wrecsam yn ymweld a Montreal, Ottawa a New Brunswick er mwyn astudio eu modelau addysg dwyieithog ac i ddysgu mwy am eu rhaglenni trochi. Eu gobaith yw dysgu am strategaethau newydd a phrofiadu syniadau a rhaglenni gwaith arloesol gan ystyried eu haddasrwydd ar gyfer ein cwricwlwm ni yma yng Nghymru.