Croeso i wefan Addysg Gymraeg Wrecsam
Gweithredir y wefan hon fel hwb canolog i rannu gwybodaeth ac adnoddau ac er mwyn hyrwyddo a chefnogi taith iaith myfyrwyr a’u teuluoedd. Nôd y wefan ydi codi ymwybyddiaeth am yr ystod eang o gyfleoedd a chefnogaeth sydd ar gael ar gyfer plant a theuluoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg Wrecsam gan hefyd grybwyll y cyfleodd ac opsiynnau ol-addysg i siaradwyr Cymraeg.
Y Gymraeg
- Mae oddeutu hanner miliwn o bobl yn gallu siarad Cymraeg yng Nghymru
- Nôd Llywodraeth Cymru ydi cynyddu y nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru i un miliwn erbyn 2050
- Cymraeg yw un o’r ieithoedd hynaf yn Ewrop, ac un o’r ieithoedd lleiafrifol cryfaf yn Ewrop
- Amddiffynir yr Iaith Gymraeg gan Gomisiynydd Iaith
- Mae’r nifer o weithleoedd sydd yn hysbysebu swyddi ble mae sgiliau yn y Gymraeg yn unai hanfodol neu’n ddymunol yn cynyddu
- Mae’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu, gyda mwy a mwy o rieni yn cydnabod pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg
Hyrwyddo darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg Wrecsam
Di-sodli'r myth


Cymraeg: o’r crud at yrfa
Newyddion diweddaraf

Ysgolion Wrecsam yn ymuno: Cyngerdd codi arian ar gyfer apel Eisteddfod Genedlaethol 2025!
Wrth i Wrecsam baratoi i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst 2025, mae yna gyffro’n tyfu ar draws y gymuned. Fel rhan o’r dathliadau a'r gefnogaeth i'r apel, bydd clwstwr ysgolion cyfrwng Cymraeg Ysgol Morgan Llwyd yn cynnal cyngerdd arbennig i godi arian yn Theatr... Darllen mwy